OPCfW%20Logo

 

Ymateb oddi wrth Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

i

Ymholiad Pwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru i Gynigion y Gyllideb Ddrafft

ar gyfer 2015-16

 

Medi 2014

 

 

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymateb hwn, cysylltwch â:

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,

Adeiladau Cambrian,

Sgwâr Mount Stuart,

Caerdydd, CF10 5FL

 

 

 

 

 

Ynglŷn â’r Comisiynydd

 

Llais annibynnol ac eiriolwr pobl hŷn ledled  Cymru yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn sefyll eu cornel ac yn siarad ar eu rhan. Mae hi’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n fregus ac ar risg yn cael eu cadw’n ddiogel, ac mae’n sicrhau bod gan bobl hŷn lais a wrandewir arno, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig neu  y gwahaniaethir yn eu herbyn a’u bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau maent eu hangen.   Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei arwain gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy, a’u lleisiau hwy sydd wrth galon yr oll a wna.   Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn wlad dda i dyfu’n hŷn ynddi - nid dim ond i rai, ond i bawb.

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn yn:

 

·        Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethau yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl yn cael eu trin yng Nghymru.   

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

1.   Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i Ymholiad Pwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru i Gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16[1].   Byddaf yn ymateb i’r cwestiynau fel eu gosodwyd yn y ddogfen ymgynghori.

 

Beth yn eich barn chi, fu effaith cyllideb 2014-15 Llywodraeth Cymru?

 

2.   Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol ac wedi effeithio ar bobl hŷn mewn nifer o ffyrdd.   Fel yr amlinellais yn fy ymateb i gyllideb ddrafft [2], 2014-15, roeddwn yn croesawu'r cyhoeddiad i ddyrannu £570m ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf, yn cynnwys £150m yn rhagor ar gyfer 2014-15.

 

3.   Roeddwn yn croesawu hefyd y cyhoeddiad o £50m i greu Cronfa Gofal Canolraddol i Gymru, adnodd pwysig i gefnogi byw yn annibynnol a gwell integreiddio rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a thai.   Fodd bynnag, er gwaethaf y camau positif hyn yn ystod  y flwyddyn ariannol, mae’r cynnydd yng ngofal canolraddol ac integredig ar risg o’i golli oherwydd natur tymor byr y ffrwd gyllido hon.   Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid yn parhau ar gyfer y rhaglenni a’r rhwydweithiau hyn sydd wedi eu cynnal gan y Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn sicrhau na chollir eu heffaith. 

 

4.   Yn llai positif oedd y setliad ariannol ar gyfer llywodraeth leol. Mae gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir gan Awdurdodau Lleol yn hanfodol i iechyd, annibyniaeth a llesiant pobl hŷn.   Mae diogelu a gwella gwasanaethau cymunedol, adnoddau a seilwaith yn flaenoriaeth yn fy Fframwaith Gweithredu 2013-17[3].   Yn aml, disgrifir y gwasanaethau hyn  fel ‘rhaffau achub’, ac fel yr amlinellais yn fy adroddiad [4]‘Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru’, dylid eu gweld fel asedau cymunedol hanfodol, yn hanfodol i gyflenwi blaenoriaethau cenedlaethol yn ymwneud ag atal,  canolbwyntio ar y dinesydd a chydnerthedd cymunedol, ymatal y costau ar wasanaethau statudol a chynnal iechyd ehangach yr economi. 

 

5.   Fel y mae adroddiad ddiweddar Swyddfa Archwilydd Cymru yn amlygu [5], mae Awdurdodau Lleol wedi gallu cwrdd eu heriau ariannol a chyflenwi eu cynllun cyffredinol, fodd bynnag bydd angen trefniadau mwy cadarn  fel bo pwysau ariannol yn cynyddu.   Mae Awdurdodau Lleol wedi rhedeg gwasanaethau rheng flaen ar ddiffyg o £250m yn y gyllideb ar y cyd, a thra rwy’n cydnabod y pwysau anferth ar gyllideb a bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd ar wariant a chynilion, rwyf wedi ei gwneud yn eglur na all pobl hŷn fforddio i golli’r asedau cymunedol hanfodol hyn.    Daw’r angen am greadigrwydd ac arloesedd wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i bobl hŷn ac i eraill, mewn un ffurf neu’r llall , yn llawer mwy pwysig.    

 

Gan edrych ar y dyraniad cyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16, a oes gennych chi unrhyw bryderon, o safbwynt strategol a chyffredinol, neu ynglŷn ag unrhyw feysydd penodol? 

 

6.   Fel yn y blynyddoedd blaenorol, disgwyliaf weld tystiolaeth o fabwysiadu dull clir a chyson ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.    Mae’r dyraniadau dangosyddol ar gyfer 2015-16, fel eu hamlinellwyd yn adroddiad Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15[6], i raddau helaeth yn dilyn y rhai o’r flwyddyn flaenorol.    Tra fy mod yn croesawu'r ychydig gynnydd yn y cyllid ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwy’n pryderu am y gostyngiadau yng nghyllid meysydd eraill a’r effaith cronnus a deimlir gan bobl hŷn.   Yn benodol:

 

-      Cymunedau a Threchu Tlodi:   Mae amcangyfrif o 84,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda 50,000 ohonynt yn byw mewn tlodi[7] ‘difrifol’.    Ymhellach, amcangyfrif bod  oddeutu 140,000 o ddeiliaid tai yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd[8].   Er bod incwm nifer o bobl hŷn wedi aros yn  sefydlog, mae pwysau cynyddol ar eu cyllid yn y blynyddoedd diweddar oherwydd nifer o ffactorau, yn cynnwys y codiad ym mhris pris nwyddau hanfodol, a chyfraddau llog hanesyddol isel  ar gynilion.  Mae cyni yn effeithio’n sylweddol ac mewn nifer o ffyrdd ar bobl hŷn yng Nghymru, ac mae gofyn i Lywodraeth Cymru gael cyllid cadarn i drechu tlodi, yn cynnwys tlodi ymhlith pobl hŷn.   Yn anffodus, ychydig iawn o gyfeiriadau at bobl hŷn sydd yng Nghynllun Gweithredu Trechu Tlodi [9], ac rwyf nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i weld beth ellid ei wneud i wella ar y nifer o bobl hŷn sy’n derbyn hawliau ariannol.

 

-      Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth:  Fel y pwysleisiais yn fy adroddiad Gwasanaethau Cymunedol,  er bod cyflwyno teithio ar fws am ddim i bobl hŷn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ychydig iawn o werth i bobl hŷn yw cael cerdyn bws am ddim pe byddai rhai o’r  llwybrau bws yn diflannu.   Rwy’n arbennig o bryderus am y gostyngiadau yn ad-daliadau teithio rhatach ar fws i weithredwyr, gostyngiadau a allai arwain at hyd at 30% o ostyngiad yn y gwasanaethau[10].  At hynny, rwy’n bryderus am yr ariannu annigonol ar gyfer Cynlluniau Cludiant Cymunedol yng Nghymru,  sy’n hynod o boblogaidd ymhlith pobl hŷn, ond cynlluniau sy’n methu ymdopi â’r galw oherwydd cefnogaeth ariannol annigonol.    Caiff gostyngiadau pellach yn y gyllideb goblygiadau anferth i bobl hŷn ledled Cymru, yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaeth a gostwng argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus sydd wir ei angen.

 

-      Addysg a Sgiliau:   Mae gan ddysgu ystod o fuddiannau i bobl hŷn.   I rai pobl hŷn, mae dysgu yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, rhywbeth sy’n eu cadw’n weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol, ac yn cyfrannu tuag at eu llesiant.   I bobl hŷn eraill, mae dysgu oedolion yn hanfodol i ganiatáu iddynt ennill sgiliau newydd er mwyn aros neu gael ail-fynediad i’r farchnad lafur.  Gydag effaith y dirywiad economaidd  ar y model ymddeol traddodiadol, mae gan Gymru nifer dychrynllyd o bobl hŷn sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth:  amcangyfrifir bod dros 1 allan o bob 3 o bobl  rhwng 50 ac oed Pensiwn y Wladwriaeth, dros 200,000 o bobl, yn ddi-waith.  Rwy’n arbennig o bryderus am y gostyngiadau i’r cyllid ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned (gostyngiad o 37.5% yn 2014-15), a chyllid ar gyfer addysg bellach rhan amser (gostyngiad o 33%)[11].  Mae prinder arian ar gyfer dysgu oedolion yn rhwystro rhagolygon cyflogaeth pobl hŷn a datblygu cwricwlwm ar gyfer bywyd hwyrach, yn cynnwys sgiliau digidol ac ariannol sydd wir

-      eu hangen, yn ogystal ag addysg byw’n iach.   Mae’r effaith cronnus o ostwng mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu y bydd pobl hŷn yn llai tebygol o gael at gyflogaeth, cyfleodd dysgu a sgiliau sydd wir eu hangen, a’u rhoi ar fwy o risg o dlodi, unigrwydd ac arwahanrwydd.

 

-      Tai ac Adfywio:  Er mwyn gostwng dibyniaeth pobl hŷn ar becynnau gofal iechyd statudol, mae Llywodraeth Cymru angen rhoi cymaint â phosib o gefnogaeth ariannol i addasu cartrefi, rhaid iddo ddefnyddio'r adolygiad parhaus i fyw’n annibynnol fel cyfle i ddiwygio’r system cymhorthion ac addasiadau er mwyn galluogi system deiliadaeth ddall sy’n gyson ar draws Awdurdodau Lleol ac sy’n hawdd cael ati a’i llywio.    Mae’r gost o ddarparu addasiadau a chadw annibyniaeth pobl hŷn yn gymharol fychan o’i gymharu â’r straen ariannol ychwanegol ar wasanaethau iechyd o ganlyniad i (ail)dderbyn pobl i’r ysbytai;  am bob £1 o wariant ar addasiadau (trwy Raglen Addasiadau Brys), fe arbedir £7.50 gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol statudol[12].

 

7.   Ynglŷn â setliad cyllid y dyfodol  ar gyfer llywodraeth leol, rwy’n ymwybodol fod Cymdeithas Awdurdod Lleol Cymru (Calc) wedi dweud [13]y dylai Awdurdodau Lleol ddarparu am hyd at 4.5% o ostyngiadau pellach, ac y gallai  Awdurdodau ledled Cymru fod yn rheoli  diffyg posib yn y gyllideb o hyd at £900m.  Mae effaith cronnus y fath ostyngiadau yn y gyllideb yn sylweddol, ac fel defnyddwyr cyson ar wasanaethau cyhoeddus rwy’n pryderu y bydd yr effaith yn disgyn yn anghymesur ar bobl hŷn.   Mae pobl hŷn ledled Cymru wedi dweud wrthyf eu bod yn bryderus iawn am ddyfodol eu gwasanaethau ‘rhaffau diogel, y gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt i gynnal eu hiechyd, eu hannibyniaeth a’u llesiant, sef bysys a thrafnidiaeth gyhoeddus, toiledau cyhoeddus, seddi cyhoeddus, llyfrgelloedd, cyfleusterau hamdden, canolfannau gofal/cymunedol, gwasanaethau ‘pryd ar glud’ a chynlluniau cyfeillio.   

 

8.   Bydd gostwng y darpariaethau anstatudol hyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, a’u rhoi ar risg o unigrwydd, iselder ac arwahanrwydd cymdeithasol.   Goblygiadau'r ddarpariaeth ostyngedig hon yw y bydd mwy o bobl hŷn yn cael eu rhoi ar becynnau cyllideb iechyd a gofal cymdeithasol statudol, ac felly’n cynyddu’r pwysau ar gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen yng Nghymru   Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a’r peryglon o ddarparu annigonol, amcangyfrifir y gallai gwariant refeniw ar iechyd godi o 42% yn 2010-11 i tua 57% o gyllideb refeniw'r Llywodraeth erbyn 2024-25[14].   Mae darparu seilwaith digonol i deithio a chael mynediad at wasanaethau cymunedol eraill yn gostwng dibyniaeth ar eraill a chostau iechyd hirdymor;  amcangyfrifir y byddai gostwng nifer y bobl hŷn a gaiff eu derbyn i ysbyty yn arbed £2bn y flwyddyn[15] i’r gwasanaeth iechyd.

 

Pa ddisgwyliadau sydd gennych o gynigion cyllideb ddrafft 2015-16?   Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer blynyddoedd sydd i ddod? 

 

9.   Fy nisgwyliadau yw bod anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn yn cael eu cyfeirio ar draws penawdau cyllidebol.   Mae gwreiddio llesiant pobl hŷn wrth galon gwasanaeth cyhoeddus yn flaenoriaeth yn fy Fframwaith Gweithredu.   Nid yw’r cysyniad o lesiant wedi'i ddeall yn ddigonol hyd yma a’i adlewyrchu wrth gynllunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.   Mae sicrhau bod gwerth, ystyr a phwrpas i fywydau pobl hŷn yn gofyn am gefnogaeth ariannol ddigonol ar draws adrannau:  nid yw anghenion pobl hŷn yn gyfyngedig i iechyd a gofal cymdeithasol. 

 

10.       Ar ôl cyfrifo am gostau mewn perthynas â phensiynau, lles ac iechyd, mae pobl hŷn werth dros £1b y flwyddyn i economi Cymru trwy, er enghraifft, wirfoddoli a gofal plant.   Mae eu cyfraniadau yn cynnal yr economi ehangach ac yn cyfyngu’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.   Gall pobl hŷn gyfrannu’n sylweddol at gymdeithas ac at yr economi ehangach, ac maent eisiau gwneud hynny.   Fodd bynnag, maent angen gwasanaethau digonol, adnoddau a seilwaith i ganiatáu iddynt wneud hynny.  Dylai setliadau cyllideb y dyfodol ystyried sut i gefnogi pobl hŷn fel ased economaidd, a chynyddu eu cyfraniad o £1b i economi Cymru[16].

 

Hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol wrth graffu ar y gyllideb.   A oes gennych unrhyw sylw penodol o ran y meysydd a nodir isod?

 

- Trefniadau ariannol y byrddau iechyd lleol

 

11.       Rwy’n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw strwythur na darpariaeth bresennol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn addas i gyflenwi ansawdd a chymhlethdod  y gofal sydd ei angen ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru, a bod camau’n cael eu cymryd i wella’r ffordd y cyflenwir gwasanaethau trwy integreiddio gwell. 

 

- Dull gweithredu o ran gwariant ataliol a sut y cynrychiolir hwn wrth ddyrannu adnoddau (Gwarant ataliol = gwariant sy’n canolbwyntio ar atal problemau a lleddfu’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar)

12.       Nid yw’r dull gweithredu o ran gwariant ataliol yn ddigonol.   Mae’r materion y cyfeiriais atynt yn flaenorol, yn cynnwys tai a gwasanaethau cymunedol, i gyd yn wasanaethau ataliol sy’n gwbl  hanfodol i ostwng y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.   Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio ymlaen, yn datblygu gwasanaethau iechyd sy’n addas i sialensiau 21 ganrif, a  chymaint ag sy’n bosibl, gostwng yr angen am becynnau gofal iechyd statudol a derbyniadau i ysbytai .

 

13.       Er gwaethaf yr hwb o £570m i gyllid iechyd a gofal cymdeithasol dros a tair blynedd nesaf, awgryma adroddiad diweddar y bydd bwlch o £2.5bn yng nghyllid GIG yng Nghymru erbyn 2025-26[17];  felly, mae cynlluniau gwariant ataliol sy’n hyrwyddo heneiddio egnïol ac iach yn hanfodol.   At hynny, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru’n ddiweddar ei fod wedi cymhwyso cyfrifon tri bwrdd iechyd oedd wedi methu cyflawni eu targed statudol o gynnal eu gwariant o fewn eu dyraniad o adnoddau [18].

 

14.       Rwyf felly’n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw strwythur a darpariaeth bresennol  iechyd a gofal cymdeithasol yn addas i gyflenwi ansawdd a chymhlethdodau'r gofal sydd ei angen ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru, a bod camau’n cael eu cymryd i wella’r ffordd y cyflenwir gwasanaethau trwy integreiddio gwell. 

 

-      Effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac a oes digon o adnoddau ar gyfer ei rhoi ar waith

 

15.       Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol 2014-15[19]  yn effeithio ar lesiant pobl hŷn mewn nifer o ffyrdd.   Bydd y Bil Llywodraeth Leol yn dechrau ar y broses o ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.   Er bod y ddadl wedi canolbwyntio’n helaeth ar nifer a maint Awdurdodau Lleol, rhaid i unrhyw ddiwygiad ganolbwyntio ar y defnyddiwr, yn cynnwys pobl hŷn. 

 

16.       Fel y pwysleisiais yn fy nhystiolaeth i’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus [20], dylai mwy o bwyslais gael ei roi ar ganlyniadau ac ar yr effaith mae gwasanaeth yn ei gael ar fywyd person hŷn.    Er bod consensws clir am newid cam ym mherfformiad a darpariaeth  gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn sicr fod yr amserlen arfaethedig ar gyfer diwygio yn portreadu gwerth am arian.   Mae hyn yn digwydd ar amser pan fo cyllidebau Awdurdodau Lleol yn wynebu sialensiau na welwyd eu math erioed o’r blaen wrth gyflenwi gwasanaethau rheng flaen er budd pobl hŷn ac eraill;  mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn rhagweld y gallai diwygio gostio hyd at £200m [21].

 

17.       Yn cael ei yrru gan y Bil Cynllunio, gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo i gefnogi a gwella bywydau pobl hŷn trwy flaenoriaethu stoc dai wedi’u dylunio yn addas ac yn hygyrch a datblygu cymunedau oed gyfeillgar, a blaenoriaethu’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru (rhaglen partneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru fel partner allweddol ac mae’n ymroddedig i wella llesiant pobl 50+), sy’n sicrhau bod yr amgylchedd a adeiladwyd yn diwallu anghenion pobl hŷn.  Mae galluogi pobl hŷn trwy annog cymunedau lleol i gyfrannu’n weithgar i lunio cynlluniau datblygu lleol yn hanfodol hefyd, ac rwy’n cefnogi pob ymdrech i gynnwys pobl hŷn yn y broses penderfynu trwy’r Bil Cynllunio a deddfwriaethau eraill.  

 

18.       Fel yr amlinellwyd yn fy ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mae llawer i’w groesawu yn y cynigion am Fil Iechyd y Cyhoedd [22].    Yn arbennig, rwy’n croesawu cyflwyno safonau ar gyfer maeth bwyd mewn cartrefi gofal, mynediad gwell at ofal a chefnogaeth integredig a gwasanaethau gofal sylfaenol sy’n canolbwyntio ar unigolyn, a chydnabod toiledau cyhoeddus fel asedau cymunedol, yn cael eu cynnal trwy roi dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol i ddatblygu strategaeth ar gyflenwi a sicrhau mynediad at doiledau i’w defnyddio gan y cyhoedd yn eu hardal hwy[23].   Disgwyliaf I’r cynigion hyn dderbyn cefnogaeth ddigonol er mwyn gwella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.

 

 

- Craffu ar y Gymraeg, cydraddoldeb a chynaliadwyedd 

 

19.       Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n cydnabod y sialens sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn ei gyllideb ar gyfer 2015-16.   Ar adeg pan fo’r gofyn am wasanaethau yn tyfu’n gyflym, mae cyllideb Llywodraeth Cymru’n wynebu toriad o £1.68bn erbyn 2015/16 o’i gymharu â 2010/11[24].   Byddaf yn edrych am sicrwydd na fydd pobl hŷn yng Nghymru yn dioddef yn anghymesur o ganlyniad i benderfyniadau a chamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gwrdd â’r pwysau cyllidebol.

 

20.       Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, pan fydd dyraniadau'r gyllideb ddangosol yn arwain at yr angen i newid natur darparu gwasanaeth neu newid i fynediad at wasanaethau,  yna byddaf yn chwilio am dystiolaeth mewn tri maes allweddol: 

 

-      Ymgysylltiad gweithredol â phobl hŷn wrth ddatblygu cynigion gwasanaeth cyn a thrwy gydol y broses ymgynghori ffurfiol.

 

-      Gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, a phan fo’r gofyn, mynediad at wasanaethau eirioli annibynnol i esbonio a chynghori ar effaith unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau.

 

-      Asesiad cadarn o effaith unrhyw newidiadau arfaethedig i wasanaethau ar bobl hŷn, fel yn ofynnol i gyrff cyhoeddus dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010[25].

 

21.       Pan fydd ar gael, byddaf yn ystyried digonolrwydd asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun ar ei gyllideb ddangosol (yn cynnwys asesu ‘oed’ fel nodwedd warchodedig) a chyhoeddi fy nghanfyddiadau ar ddyddiad yn y dyfodol.   Hoffwn wybod mwy am sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â phobl hŷn i gyrraedd at ei gynigion ar gyfer y gyllideb.  Rwy’n disgwyl y bydd Asesiad Llywodraeth Cymru o’r Effaith ar Gydraddoldeb  ar gyfer 2015-16 yn ategu fersiwn 2014-15[26] ac yn pwysleisio unwaith eto bod ‘angen clir i ddiogelu pobl hŷn yng Nghymru ac mae penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn’

 

22.       Fel y soniwyd yn flaenorol, er bod y penderfyniad i ddiogelu cyllidebau iechyd i’w groesawu,  nid yw anghenion pobl hŷn wedi’u cyfyngu i ofal iechyd.   Yn anad dim, byddaf eisiau sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg, ac na fydd toriadau yng ngwasanaethau cyhoeddus yn effeithio’n anghymesur arnynt.

 

Sylwadau Cloi

 

23.       Wrth ddarparu cyllideb 2015-16, rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru beidio canolbwyntio ar gytbwysedd ariannol, effeithlonrwydd a mesurau proses yn unig, ond hefyd ar yr effaith y mae gwasanaethau yn ei gael ar ansawdd ffordd o fyw  pobl hŷn yn gyffredinol.   Rhaid i’r ffocws fod ar sicrhau fod pobl hŷn yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwrando a’u parchu, yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt hwy, yn gallu cael cymorth pan fyddant ei angen i gadw’n ddiogel ac annibynnol, a bod y llefydd a’r cymunedau maent yn byw ynddynt yn cefnogi eu ffordd o fyw.

 

24.       I gyflawni hyn, rhaid i wasanaethau cyhoeddus wella’n sylweddol yr ehangder maent am gydweithio a gwrando ar bobl hŷn.   Golyga hyn gynnwys pobl hŷn wrth ddylunio, datblygu a chyflenwi gwasanaethau a sicrhau fod gofal a chefnogaeth i unigolion wedi’i deilwra i’w anghenion a’u dymuniadau penodol hwy.   Efallai i ostwng neu dynnu gwasanaethau yn ôl, fel canolfannau cymunedol/dydd, addasu cartrefi a thrafnidiaeth gyhoeddus, gael eu gweld fel blaenoriaethau is, fel gwasanaethau ‘llaith’ ac yn arwain at gynilion gwariant yn y tymor byr, fodd bynnag gall eu colli fod yn ddinistriol i bobl hŷn sy’n dibynnu arnynt. 

 

25.       Gallai cynnal y gwasanaethau hyn, ac yn ei dro cynnal iechyd, annibyniaeth a llesiant pobl hŷn, arwain at gostau diangen pellach i’r pwrs cyhoeddus yn y tymor canolig i’r  tymor hir.   Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, rwy’n pryderu y bydd yr effaith cronnus o ostwng gwasanaethau cyhoeddus anstatudol yn rhoi pobl hŷn ar fwy o risg o unigrwydd ac arwahanrwydd, materion sydd heb eu cydnabod yn llawn hyd yma fel peryglon mawr i iechyd cyhoeddus[27].

 

26.       Lleisiau pobl hŷn fydd, a rhaid iddynt fod, y prawf eithaf ar ba mor effeithiol yw Llywodraeth Cymru a’n holl wasanaethau cyhoeddus, a bod y newid maent ei eisiau a’i angen, yn cael ei roi ar waith.

 

 



[1] http://senedd.assemblywales.org/documents/s29438/Consultation%20letter.pdf

[2] http://www.olderpeoplewales.com/en/news/news/13-10-08/Statement_on_Welsh_Government_Draft_Budget_2014-15.aspx

[3] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/13-05-23/Framework_for_Action.aspx

[4] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[5]http://www.wao.gov.uk/system/files/publications/694A2013_Meeting%20the%20financial%20challenges_Final.pdf

[6] http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/131206explanatoryen.pdf

[7] http://www.ageuk.org.uk/cymru/professional-resources/publications/life-on-a-low-income/

[8] http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/130521olderpeoplestrategyen.pdf

[9] http://wales.gov.uk/docs/dsjlg/publications/socialjustice/120625tackpovplanen.pdf

[10] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[11] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[12] http://www.careandrepair.org.uk/uploads/Publications/Theres_no_place_like_home_E.pdf

[13] http://www.wlga.gov.uk/press-archive/more-deep-cuts-will-decimate-local-public-services

[14] http://www.walespublicservices2025.org.uk/wp-content/uploads/2013/09/Mark-Jeffs-WPS2025-Full-Report1.pdf

[15] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[16] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[17] http://www.nuffieldtrust.org.uk/sites/files/nuffield/publication/140617_decade_of_austerity_wales.pdf

[18] http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/8917720/?lang=en

[19] http://wales.gov.uk/legislation/programme/2014-2015/?lang=en

[20] http://wales.gov.uk/docs/dpsp/publications/psgd/140120-psgd-full-report-env2.pdf

[21] http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-25816599

[22] http://wales.gov.uk/docs/phhs/consultation/140402consultationen.pdf

[23] http://www.olderpeoplewales.com/en/news/news/14-03-31/Commissioner_strongly_welcomes_proposals_to_improve_access_to_public_toilets_in_Wales.aspx

[24] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx

[25] http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/contents

[26] http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/131008draftbudgeteia.pdf

[27] http://www.olderpeoplewales.com/en/Publications/pub-story/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx